Lleoliad:
Ystafell Gynadledda A - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Iau, 19 Medi 2019
Amser: 09.10 - 13.56
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Bwrdd: |
Y Gwir Anrhydeddus y Fonesig Dawn Primarolo (Cadeirydd) Ronnie Alexander Trevor Reaney Michael Redhouse Y Fonesig Jane Roberts |
Swyddogion: |
Gethin Jones, Trawsnewid Strategol Stephen Aldhouse, Newid Cyfansoddiadol (yn bresennol ar gyfer Eitemau 1, 4 a 5) Helen Finlayson, Newid Cyfansoddiadol (yn bresennol ar gyfer Eitemau 1, 4 a 5) |
Ysgrifenyddiaeth: |
Ruth Hatton (Dirprwy Glerc) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd Aelodau’r Bwrdd i’r cyfarfod.
1.2 Mynegodd y Cadeirydd ac aelodau'r Bwrdd eu dymuniadau gorau i Lleu Williams, clerc y Bwrdd.
1.3 Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Gorffennaf 2019.
1.4 Nododd y Bwrdd y diweddariad a roddwyd ar y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru), sydd yng Nghyfnod 2 o'r broses graffu ddeddfwriaethol ar hyn o bryd.
1.5 Nododd y Bwrdd y diweddariad ar y cam nesaf o ran diwygio'r Cynulliad a phenderfyniad y Cynulliad i sefydlu Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad.
1.6 Nododd y Bwrdd y diweddariad ar gyflwyno dyfeisiau diogelwch i Aelodau.
1.7 Nododd y Bwrdd y diweddariad ar ymchwiliadau annibynnol fel rhan o'r weithdrefn gwyno.
1.8 Nododd y Bwrdd y diweddariad yn dilyn galw'r Cynulliad yn ôl.
1.9 Gwnaeth y Pwyllgor drafod a chytuno ar ei flaenraglen waith ar gyfer tymor yr hydref.
Cam gweithredu:
- Yr ysgrifenyddiaeth i gyhoeddi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf 2019.
2.1 Nododd y Bwrdd benderfyniad y Cynulliad i sefydlu Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad.
2.2 Nododd y Bwrdd y bydd y Pwyllgor Busnes yn rhoi cynigion i'r Cynulliad ar faint ac aelodaeth y Pwyllgor maes o law.
2.3 Trafododd y Bwrdd lythyr oddi wrth y Llywydd yn nodi cylch gwaith y Pwyllgor. Nododd aelodau’r Bwrdd y byddai gwaith y Pwyllgor yn cael ei gyflawni’n unol â therfyn amser penodol, ond cytunwyd y dylid talu’r Cadeirydd ar y gyfradd uwch oherwydd y posibilrwydd y gallai cylch gwaith y Pwyllgor fod yn gymhleth ac yn dechnegol.
Cam gweithredu:
- Y Bwrdd i ysgrifennu at y Llywydd i gadarnhau y dylid pennu lefel tâl Cadeirydd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad ar y gyfradd uwch.
3.1 Trafododd y Bwrdd benodiad Cadeirydd Annibynnol Proffesiynol y Bwrdd Pensiynau. Mae'r penodiad am bedair blynedd a bydd penodiad y Cadeirydd presennol yn dod i ben ym mis Mai 2020.
3.2 Trafododd y Bwrdd ei opsiynau gan gynnwys hysbysebu am benodiad newydd neu ymestyn penodiad y Cadeirydd presennol am bedair blynedd arall.
3.3 Gan nodi perfformiad y Cadeirydd presennol, cytunodd y Bwrdd i ymestyn ei phenodiad am dymor arall o bedair blynedd.
Cam gweithredu:
- Rhoi gwybod i Glerc y Bwrdd Pensiynau am benderfyniad y Bwrdd i ymestyn penodiad y Cadeirydd presennol am bedair blynedd arall.
4.1 Trafododd y Bwrdd y materion sy'n dod o dan ran tri o'r adolygiad ynghylch cyflogau Aelodau, deiliaid swyddi, gadael swyddi a chymorth ychwanegol.
4.2 Cytunodd y Bwrdd i ymgynghori ar ei gynigion i ddiwygio'r penodau hyn o'r Penderfyniad.
4.3 Y dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad fydd 11 Tachwedd 2019.
Cam gweithredu:
- Cyhoeddi a hyrwyddo'r ymgynghoriad;
- Paratoi crynodeb o'r ymatebion i'w hystyried mewn cyfarfod yn y dyfodol
5.1 Trafododd y Bwrdd y diweddariadau ar Lwfans Cymorth y Pleidiau Gwleidyddol a’r broses o Gyflogi Staff y Grwpiau Gwleidyddol.
5.2 Cytunodd y Bwrdd i beidio ag ystyried unrhyw newidiadau o ran pwy yw’r cyflogwr ar gyfer staff y grwpiau ar yr adeg hon. Cytunwyd y byddai angen gwneud unrhyw benderfyniadau mewn perthynas â hunaniaeth cyflogwr staff grŵp yng nghyd-destun unrhyw newid i faint y Cynulliad.
5.3 Nododd y Bwrdd nad oes disgwyl i ddeddfwriaeth ar faint y Cynulliad gael ei chyflwyno tan dymor nesaf y Cynulliad, a chytunodd y dylid tynnu sylw at y mater hwn yn ei adroddiad etifeddiaeth ar gyfer y Bwrdd newydd yn 2020.
5.3 Cytunodd y Bwrdd i ystyried Lwfans Cymorth y Pleidiau Gwleidyddol fel rhan o'i adolygiad blynyddol o'r Penderfyniad ar gyfer gweddill y Pumed Cynulliad.
5.4 Cytunodd y Bwrdd y byddai angen ystyried unrhyw newidiadau i fformiwla neu strwythur y lwfans yng nghyd-destun diwygio'r Cynulliad. Felly, cytunwyd y dylid tynnu sylw at hyn yn adroddiad etifeddiaeth y Bwrdd ar gyfer y Bwrdd newydd yn 2020.
Camau gweithredu:
- Trafod Lwfans Cymorth y Pleidiau Gwleidyddol fel rhan o'r adolygiad blynyddol o'r Penderfyniad mewn cyfarfod yn y dyfodol.
- Cynnwys hyn yn adroddiad etifeddiaeth y Bwrdd i'w gyhoeddi yn haf 2020.